MO Wales! Swansea team sprout moustaches for men’s cancer cause

The Mo Sisters support the guys!

From 1st November; Michael Hargreaves, Steve Poole and Mark Rees from the Swansea GO Wales team will be embarking on a moustache growing journey as part of the Movember fundraising effort for testicular and prostate cancer.   

During November each year, Movember is responsible for the sprouting of moustaches on thousands of men’s faces in the UK and around the world. The aim of which is to raise vital funds and awareness for men’s health, specifically prostate cancer and other cancers that affect men.

Over the next 30 days the team hope to raise awareness around the often ignored issue of men’s health and Movember is a light-hearted way of overcoming the taboo that surrounds the subject. This is the first time that GO Wales IT Manager Mark Rees has taken part in the cause, he said;

“When somebody suggested I grow a moustache for 30 days I did have my reservations but it’s worth it for the comedy value and to know that we are raising money for a good cause. We’ve already been taking bets on the first one to a handlebar!”

The moustache growing efforts of the team will be available to view on the GO Wales website and blog.

To make a donation to the team please visit –http://mosista.co/gowales

MO Wales! Tîm Abertawe yn tyfu mwstashis at achos canser dynion

 

O 1 Tachwedd bydd Michael Hargreaves, Steve Poole a Mark Rees o dîm GO Wales Abertawe yn dechrau ar daith tyfu mwstashis fel rhan o ymdrech codi arian Movember ar gyfer canser y gaill a chanser y brostad.  

Yn ystod mis Tachwedd bob blwyddyn, mae Movember yn gyfrifol am ymddangosiad mwstashis ar wynebau miloedd o ddynion ar draws y DU a’r byd. Y nod yw codi arian hanfodol ac ymwybyddiaeth i iechyd dynion, yn benodol canser y brostad a chanserau eraill sy’n effeithio ar ddynion.

Dros y 30 diwrnod nesaf mae’r tîm yn gobeithio codi ymwybyddiaeth mewn perthynas â materion iechyd dynion sy’n cael eu hanwybyddu’n aml ac mae Movember yn ffordd ysgafngalon o oresgyn y tabŵ sydd ynghlwm wrth y pwnc. Dyma’r tro cyntaf i Reolwr TG GO Wales, Mark Rees gymryd rhan yn yr achos a dywedodd;

“Pan awgrymodd rhywun y dylwn dyfu mwstas am 30 diwrnod roedd gennyf fy amheuon ond mae’n werth hynny o ran y digrifwch, a gwybod ei fod at achos teilwng. Rydym eisoes yn cymryd betiau ynglŷn â phwy fydd y cyntaf i gael handlebar!”

Bydd ymdrechion y tîm i dyfu mwstas i’w gweld ar wefan a blog GOWales.

I wneud cyfraniad ar gyfer y tîm ewch i –http://mosista.co/gowales

Here are a few pics we took to celebrate the start of Movember!